The power to settle financial complaints.
The power to settle financial complaints.
Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn Braille, print bras neu ar dâp sain. Galwch ni ar 020 7964 0766 e-bostiwch accessibility@financial-ombudsman.org.uk
Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn ystod o ieithoedd eraill.
Os ydych yn pryderu nad yw cwmni yn dilyn y rheolau, dylech gysylltu â llinell gymorth FSA i ddefnyddwyr ar 0845 606 1234.
Mae gan yr ombwdsmon bwerau swyddogol i ddatrys cwynion rhyngoch chi a busnes ariannol yr ydych yn anhapus yn ei gylch.
Rydym yn edrych ar y ffeithiau, yn gofyn cwestiynau ac yn penderfynu beth sy'n deg ym mhob achos unigol.
Os tybiwn fod y busnes wedi eich trin yn deg byddwn yn dweud wrthych pam. Ond os byddwn yn cytuno bod y busnes wedi gwneud rhywbeth o'i le, gallwn ei orchymyn i gywiro pethau.
Mae ein gwasanaeth am ddim i ddefnyddwyr.
Mae’r daflen hon yn son rhagor wrthych am yr ombwdsmon a sut y defnyddiwn ein pwerau i ddatrys cwynion ariannol.
Bob blwyddyn mae tua miliwn o bobl yn cysylltu â ni ynglŷn â phroblemau ariannol sy'n ymwneud â:
Os nad ydych yn siŵr a allwn ni eich helpu â'ch problem benodol chi, cysylltwch â ni a holwch. Ffoniwch ni ar 0300 123 9 123.
Os ydych yn poeni am gost ein ffonio, byddwn yn fwy na pharod i'ch ffonio yn ôl.Cyn ein bod ni’n edrych ar eich problem, ceisiwch yn gyntaf ei datrys eich hun gyda'r busnes yr ydych yn anhapus yn ei gylch
Os yw'n anodd i chi wneud hyn, neu nad ydych yn siŵr ynglŷn â rhywbeth, cysylltwch â ni.
Mae gan y busnes wyth wythnos i ddatrys eich cwyn gyda chi. Os, ar ôl wyth wythnos, eich bod yn dal yn anhapus gallwch ofyn i ni ddod yn rhan o'r mater. Byddwn yn egluro i chi beth ddylech ei wneud nesaf. Ffoniwch ni ar 0300 123 9 123.
Os yw'r busnes wedi cael wyth wythnos a’ch bod yn dal yn anhapus, gallwch ofyn i ni ddod yn rhan o'r mater.
Os tybiwn y gallwn eich helpu, byddwn angen peth gwybodaeth gennych ar gyfer eich ffurflen gwyno.
Byddwn yn gofyn i chi am:
Os byddwch yn ein ffonio, gallwn lenwi peth o'r wybodaeth ar ein ffurflen gwyno ar eich rhan.
Neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen o'n gwefan (www.financial-ombudsman.org.uk). Llenwch y ffurflen a'i hanfon i ni.
Gallwn addasu'r modd y byddwn yn cyfathrebu â chi, yn dibynnu ar eich anghenion.
Os hoffech wybodaeth mewn fformat gwahanol, megis Braille, print bras neu ar dâp sain - neu mewn iaith wahanol - rhowch wybod i ni. Gwnawn ein gorau i helpu.
Os yw eich cwyn yn un y gallwn ni ddelio â hi byddwn yn:
Os ydym o’r farn bod y busnes wedi eich trin yn deg, fe ddywedwn wrthych pam.
Os ydym o'r farn bod y busnes wedi gweithredu'n anghywir a'ch bod chi ar eich colled, gallwn ei orchymyn i gywiro pethau i chi.
Rydym yn datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn. Os na wnawn, gallwn adolygu'r gŵyn a dweud wrthych beth yw ein penderfyniad terfynol.
Nid oes yn rhaid i chi dderbyn ein penderfyniad ac mae croeso i chi fynd i'r llys yn lle hynny. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi am unrhyw ofynion na chyfyngiadau gan y llys (er enghraifft, ar derfynau amser).Edrychwn ar bob achos yn ofalus - ac mae'r amser mae'n ei gymryd yn amrywio’n sylweddol. Gall ddibynnu ar:
Golyga hyn y gallwn ddatrys rhai cwynion o fewn rhai misoedd yn unig. Fodd bynnag, gall rhai gymryd dros flwyddyn.
Oes. Os na allwch ddatrys eich cwyn eich hun gyda'r busnes, mae'n bwysig eich bod yn ei ddwyn atom ni cyn gynted â phosibl. Mae gennych hyd at chwe mis i wneud hyn.
Gall terfynau eraill hefyd fod yn berthnasol os:
Gall unrhyw un gwyno ar eich rhan - er enghraifft,
aelod o'ch teulu, ffrind neu Cyngor ar Bopeth. Ond byddwn yn dal angen i chi arwyddo ein ffurflen gwyno er mwyn caniatáu i ni ddelio â hwy.
Nac oes. Ni ddylai bod angen help arbenigol - er enghraifft gan gyfreithiwr neu gwmni rheoli hawliadau. Rydym yn edrych ar ffeithiau pob cwyn - nid ar ba mor dda yr ydych yn cyflwyno eich achos. Ac mae'n well gennym glywed gennych chi yn eich geiriau chi eich hun.
Os ydych yn cyflogi rhywun i gyflwyno eich cwyn ar eich rhan, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eu costau. Gallai hynny olygu eich bod yn y diwedd yn eu talu hwy allan o unrhyw arian y gallech ei gael yn ôl.Nid yw'r ombwdsmon mor ffurfiol â llysoedd. Yn gyffredinol byddwn yn datrys cwynion ar sail ar y wybodaeth y byddwch chi a'r busnes yn ei rhoi i ni, yn ysgrifenedig a dros y ffôn. Byddwn yn datrys bron pob cwyn heb orfod cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Efallai na fydd ein gwasanaeth yn addas i chi os yw eich cwyn yn ymwneud â dros £100,000 (£150,000 ar gyfer cwynion a dderbyniwn ar ôl 1 Ionawr 2012) - y mwyaf y gallwn ddweud wrth fusnes ei dalu. Efallai hefyd y byddai'n well gennych fynd â'ch cwyn i'r llys os ydych eisiau:
Gall. Gallwn edrych ar y rhan fwyaf o gwynion gan fusnesau llai - cyhyd â bod ganddynt:
Na. Gwaith y rheoleiddwyr, megis yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a Swyddfa Masnachu Teg (OFT), yw ysgrifennu'r rheolau a gwneud yn siŵr bod busnesau yn cadw atynt.
Ein gwaith ni yw datrys cwynion unigol rhwng busnesau sy'n darparu gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid.
Dim ond canllaw cyffredinol yw'r daflen hon. Gall y rheolau sy'n rhaid i ni eu dilyn fod yn gymhleth.
Os gofynnwch i ni edrych ar gŵyn, byddwn yn dweud wrthych am unrhyw reolau neu gyfyngiadau a all fod yn gymwys yn eich achos chi.
Byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi holi ynglŷn ag unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall neu’n cytuno ag ef.
Rydym wedi cydweithio â'r elusen anabledd Ymddiriedolaeth Shaw i wneud y daflen hon mor ddarllenadwy a hawdd ei defnyddio â phosibl.
(h) Y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol Cyf Mehefin 2011
Cynhyrchwyd gan y tîm cyfathrebu yn y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. Rhif cyfeirnod 110/01.06.11.
Y grym i setlo cwynion ariannol.