image: diversity

ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth

Fel darparydd gwasanaeth cyhoeddus, corff statudol a chyflogwr, mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol wedi ymrwymo'n llwyr i drin pawb rydym yn ymdrin â nhw yn deg ac yn gyfartal.

darparu ein gwasanaethau

Rydym yn anelu at ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid drwy:

cyfleoedd cyfartal

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ymdrin â phawb yn gyfartal – beth bynnag, er enghraifft, fo rhyw, oedran, anabledd, tueddiad rhywiol, hil, crefydd neu gred.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn cydnabod fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhinweddau positif ac rydym yn deall ac yn croesawu’r gwahaniaethau a ddaw gyda diwylliannau amrywiol.

rydym yn gwerthfawrogi didwylledd, hygyrchedd, tegwch a thryloywder

Mae ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i bob maes o’n cyfrifoldebau fel cyflogwr – gan gynnwys ymddeoliad, dyrchafiad, hyfforddiant, rheoli perfformiad, tâl a buddion.

hyfforddiant

Byddwn yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i’n holl staff i’w helpu i:

cyfrifoldebau'n gweithwyr

Rydym yn disgwyl i bob un o’n gweithwyr ein helpu i gyflawni'n hymrwymiad i greu diwylliant positif, amrywiol wrth gynnal y polisi hwn.

Ein cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Peter Stansfield, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol o oruchwylio sut rydym yn gweithredu’n polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y sefydliad.  

tamrywiaeth ein gweithlu

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth yn ein hadroddiad blynyddol  ynghylch amrywiaeth ein gweithlu. Mae’n ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 58% o’n gweithwyr yn wrywaidd a 42% yn fenywaidd. Daw 15% o’n gweithwyr o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig. Mae oedran cyfartalog ein gweithwyr yn 37 mlwydd oed.

Fel rhan o’n gwaith ymestyn allan gyda chymunedau a defnyddwyr sy’n defnyddio llai ar ein gwasanaethau, rydym yn hyrwyddo nid yn unig ein gwaith fel y corff arweiniol ar gyfer datrys anghydfod ond hefyd ein swyddogaeth fel cyflogwr sydd wedi ymrwymo i amrywiaeth a chydraddoldeb. Er enghraifft, mae’r gwaith hwn wedi cynnwys:

Mae’n hyfforddiant amrywiaeth a chydraddoldeb ar gyfer ein gweithwyr wedi cynnwys cynnal digwyddiad ymwybyddiaeth anabledd, mewn partneriaeth â phum elusen, ar gyfer ein holl staff a bwrdd y cyfarwyddwyr.